Notices


Cynllun Gwasanaethau Clinigol – Gwasanaethau Strôc: ystyriaeth gydwybodol o adborth – Clinical Services Plan – Stroke Services: conscientious consideration of feedback

Cynllun Gwasanaethau Clinigol – Gwasanaethau Strôc: ystyriaeth gydwybodol o adborth 

Annwyl Cyngor Tref/Cymuned,

Diolch i chi am eich cyfraniad at lunio ein Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Fel y gwyddoch, roedd ail gam yr ymgynghoriad cyhoeddus yn canolbwyntio’n benodol ar wasanaethau strôc. Nod yr ymgynghoriad hwn oedd ceisio barn ar ein dewis opsiwn ar gyfer darparu gwasanaethau strôc yn y dyfodol, a chafodd ei gynnal dros gyfnod o wyth wythnos, rhwng 28 Mai a 26 Gorffennaf 2026. Yn ystod y cyfnod hwn, gwahoddwyd ein cleifion ac aelodau o’n cymunedau, staff, sefydliadau partner a rhanddeiliaid eraill i roi adborth ar y newidiadau arfaethedig i wasanaethau strôc.

Ar ôl pob ymgynghoriad cyhoeddus, fel bwrdd iechyd rydym yn ymgymryd â phroses o ystyriaeth gydwybodol. Mae hyn yn sicrhau bod ein hadroddiad ymgynghori yn adlewyrchu’r hyn a glywsom yn ystod yr ymgynghoriad fel ei fod yn llywio ein penderfyniadau’n briodol.

Fel rhan o’r broses ystyriaeth gydwybodol hon, rydym yn gwahodd rhanddeiliaid i helpu i adolygu’r adborth a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad, fel y’i crynhoir yn yr adroddiad ymgynghori drafft. Bydd yr adborth hwn yn llywio’r adroddiad y bydd y Bwrdd yn ei ystyried yn ffurfiol yn ystod ei broses ystyried ofalus.

Byddai croeso mawr i’ch barn fel Cyngor/Cynghorydd Tref/Cymuned. Bydd eich adborth ar ein drafft o’r adroddiad ymgynghori yn helpu i lywio’r cam nesaf hwn, wrth i ni symud tuag at benderfyniad ar y model gwasanaeth ar gyfer strôc yn Hywel Dda yn y dyfodol.

Gweler yr adroddiad drafft ar y ddolen hon https://www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk/clinical-services-plan-stroke-services-conscientious-consideration-of-feedback

(Mae’r adroddiad drafft hwn yn cael ei rannu â chi fel rhan o’r broses ystyriaeth gydwybodol ac ni chaiff ei gyhoeddi tan fis Tachwedd 2026. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â’i rannu ymhellach nes iddo gael ei gyhoeddi’n ffurfiol).

Gellir rhannu adborth trwy holiadur, https://www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk/embeds/projects/52104/survey-tools/60532  erbyn 30 Medi 2026.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Ymgysylltu yn: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk  

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.

Gyda diolch,

Nichola Couceiro

Pennaeth Ymgysylltu

Dear Town / Community Council,

 Clinical Services Plan – Stroke Services: conscientious consideration of feedback 

Thank you for your involvement in shaping our Clinical Services Plan. As you will be aware, the second phase of the public consultation focussed specifically on stroke services. This consultation sought views on our preferred option for the future delivery of strokes services and took place over eight weeks, from 28 May – 26 July 2026. During this time, our patients and members of our communities, staff, partner organisations, and other stakeholders were invited to provide feedback on proposed changes to stroke services.

After each public consultation, as a health board we undertake a process of conscientious consideration. This ensures that our consultation report reflects what we have heard during the consultation so that it appropriately informs our decisions.   

As part of this conscientious consideration process, we are inviting stakeholders to help review the feedback collected during the consultation, as summarised in the draft consultation report. This feedback will inform the report that will be formally considered by the Board during their conscientious consideration process.  

Your perspective as a Town/Community Council/Councillor would be greatly appreciated. Your feedback on our draft consultation report will help inform this next stage, as we move towards a decision on the future service model for stroke in Hywel Dda. 

Please see the draft report on this link https://www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk/clinical-services-plan-stroke-services-conscientious-consideration-of-feedback

(This draft report is being shared with you as part of the conscientious consideration process and will not be published until November 2026. We kindly ask that you do not share it further until it is formally published).

Feedback can be shared via survey https://www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk/embeds/projects/52104/survey-tools/60476  by 30 September 2026 please.

if you have any questions, please contact the Engagement Team at: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk

We look forward to hearing from you

Many thanks, 

Nichola Couceiro

Head of Engagement


FS-CASE-REF 863360565 C2203 PINGED SA16 0JE 17/09/26 NETWORK ONE REF 152036192



 

Llysgenhadon Ieuenctid SCHTh yn Lansio Arolwg Newydd i Bobl Ifanc | OPCC Youth Ambassadors Launch New Survey for Young People

Llysgenhadon Ieuenctid SCHTh yn Lansio Arolwg Newydd i Bobl Ifanc OPCC Youth Ambassadors Launch New Survey for Young People  
  Mae Llysgenhadon Ieuenctid o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a throseddu wedi lansio arolwg newydd fel rhan o’u Prosiect Ieuenctid y Dyfodol.     Nod Prosiect Ieuenctid y Dyfodol yw i’r llysgenhadon ieuenctid ddeall pryderon, barn, a phrofiadau cyfredol pobl ifanc 14 i 25 oed yn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Bydd y llysgenhadon ieuenctid yn cynnal arolwg, yn mynychu digwyddiadau, ac yn ymweld â grwpiau lleol yn ardal Heddlu Dyfed-Powys fel rhan o’r prosiect.    Mae llysgenhadon ieuenctid wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu’r cwestiynau, gan sicrhau bod yr arolwg yn berthnasol, yn hygyrch, ac yn ystyrlon i’w cymheiriaid. Drwy gymryd rhan, bydd ymatebwyr yn cyfrannu’n uniongyrchol at ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau a gwella’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc.    Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:  “Mae eich barn chi wir yn bwysig. Rwy’n annog pob person ifanc i gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Mae adborth pobl ifanc yn hanfodol i helpu fy llysgenhadon ieuenctid, fy swyddfa, a Heddlu Dyfed-Powys i geisio barn a phryderon ein pobl ifanc sy’n byw yn ein cymunedau. Gadewch i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i gadw Dyfed a Phowys yn ddiogel i bobl ifanc.”    Bydd gan gyfranogwyr gyfle hefyd i gymryd rhan mewn raffl fawr i ennill crys pêl droed Dinas Abertawe wedi’i lofnodi gan Gonçalo Franco. Cyhoeddir yr enillydd ym mis Medi. Darganfod mwy: https://forms.office.com/e/Fdf1aLyqZX?origin=lprLink   Cymerwch ran yn yr arolwg yma: https://forms.office.com/e/Fdf1aLyqZX?origin=lprLink     Mae’r arolwg yn cau ar 25 Medi 2026.   Rhannwch yr arolwg hwn â’ch cysylltiadau, er mwyn casglu barn cymaint o bobl ifanc â phosibl.    Yn gywir, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys    Youth Ambassadors from the Office of the Police and Crime Commissioner have launched a new survey as part of their Future Youth Project.   The Future Youth Project aims for the Youth Ambassadors to gain an understanding of the current concerns, opinions and experiences of young people aged 14-25 in the Dyfed-Powys area. The Project will see the Youth Ambassadors conduct a survey, attend events, and visit local groups in the Dyfed-Powys area.   Youth Ambassadors have played a leading role in developing the questions, ensuring the survey is relevant, accessible, and meaningful to their peers. By taking part, respondents will directly contribute to influencing decision-making and improving support available to young people.   Police and Crime Commissioner Dafydd Llywelyn said: “Your opinion really does matter. I encourage all young people to take part in this survey. Young people’s feedback is essential in helping my Youth Ambassadors, my Office and Dyfed-Powys Police gather the opinions and concerns of our young people living in our communities. Let’s continue to work together to keep Dyfed-Powys safe for young people.”   Participants will also have a chance to enter a prize draw to win a signed Swansea City A.F.C shirt signed by Gonçalo Franco. The winner will be announced in September. Find out more: https://forms.office.com/e/Fdf1aLyqZX?origin=lprLink   Take the survey here: https://forms.office.com/e/Fdf1aLyqZX?origin=lprLink   The survey closes 25th September 2026.   Please share this survey with your contacts, to capture as many opinions as possible.   Kind regards, Office of the Police and Crime Commissioner Dyfed-Powys